Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl

Cyfarfod -  2 Chwefror 2016 - 12:30-13:15Ystafell Giniawa 1, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

 

Yn bresennol  

 

Joyce Watson AC (JW)

Nitesh Patel (NP) – Swyddog Cyfathrebu, Joyce Watson AC

Dr Mwenya Chimba (MC) – BAWSO

Stephen Chapman (SC) – Llywodraeth Cymru

Dan Boucher (DB) – CARE

Emmy Chater (EC) - Cyngor Dinas Casnewydd

Robin Davies (RD) – Y Genhadaeth Gyfiawnder Ryngwladol (IJM)

 

Eitem 1 – Ymddiheuriadau

 

Simon Thomas AC

Kirsty Williams AC

 

Eitemau 2 a 3 - Cyflwyniad ac Ethol Cadeirydd / Ysgrifennydd

 

Dechreuodd JW y cyfarfod drwy gyflwyno ei hun fel AC Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl. Cadarnhawyd JW a BAWSO yn Gadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth y grŵp gan aelodau'r grŵp a oedd yn bresennol.

 

Eitemau 4 a 5

 

Dechreuodd aelodau'r cyfarfod drafodaethau ar y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â masnachu mewn pobl a datblygiadau diweddar yn y maes hwn.

 

Mynegodd EC ei phryderon ynghylch 'asesiadau oedran' a methiant gan awdurdodau i asesu oedran dioddefwr posibl yn iawn.  Mynegodd EM ei phryderon hefyd ynghylch colli profiad yng Nghaerdydd, gyda llawer o weithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am asesiadau oedran yn symud i weithio i awdurdodau eraill ar draws Cymru.  

Mynegodd JW ei phryderon ynghylch asesiadau oedran yn nodi oed rhy hŷn mewn rhai achosion a methiant i adnabod plant agored i niwed yn iawn.

Dywedodd JW fod yr argyfwng ffoaduriaid diweddar wedi cynyddu nifer y plant agored i niwed posibl sy'n dod i'r DU o wledydd fel yr Eidal, er enghraifft.  Dywedodd JW ei bod wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn ystod dadleuon y Cyfarfod Llawn. 

Dywedodd JW ei bod yn hanfodol bod mesurau yn cael eu rhoi yn eu lle i ymdrin yn briodol a'r argyfwng ffoaduriaid ac i ddiogelu dioddefwyr a allai fynd yn ysglyfaeth i fasnachwyr.

Mynegodd EC ei phryderon ynghylch diffyg adnoddau'r Swyddfa Gartref o ran gwaith sgrinio llawn a'r defnydd o dechnoleg fiometrig.  Dywedodd EC ei bod yn ymwybodol o achosion lle mae awdurdodau yn dod o hyd i blentyn, yn ei roi mewn gofal ac yna'n mae'n mynd ar goll yn fuan wedyn, gydag ond ei enw a disgrifiad o'r plentyn wedi'u nodi.  Nid oes gan Gaerdydd yr adnoddau i ddelio'n ddigonol â'r mathau hyn o achosion. 

Dywedodd EC nad oedd bod yn blentyn ynddo'i hun yn ffactor arwyddocaol i nodi bod rhywun yn 'agored i niwed'.

Dywedodd DB fod model Gogledd Iwerddon o ddelio â masnachu mewn pobl yn ystyried plant sydd ar eu pen eu hunain yn ogystal â phlant sy'n cael eu masnachu. 

Yn ystod taith y Bil Caethwasiaeth Fodern, dywedodd SC ei fod wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref a'r Llywodraeth yn San Steffan os gallai Cymru fod yn rhan o'r cynlluniau Gwarcheidiaeth peilot sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd.  Ar y pryd gwrthodwyd y cais gan ddweud bod nifer yr achosion yng Nghymru'n rhy isel.  Dywedodd SC ei fod wedyn wedi gofyn i Gymru gael ei hystyried yn ystod ail rownd y cynlluniau peilot.  Mae'r Swyddfa Gartref / y Llywodraeth yn San Steffan wedi cytuno. Dywedodd SC ei fod ef a thua 10 o bobl eraill wedi cymryd rhan mewn cyfarfod diweddar gyda swyddogion o'r Swyddfa Gartref, a'u bod nhw, yn y cyfarfod, wedi'u hargyhoeddi o'r angen i gyflwyno cynlluniau peilot yng Nghymru hefyd. Aeth SC a BAWSO â swyddogion o'r Swyddfa Gartref i ganolfan Casnewydd i weld y gwaith sy'n cael ei wneud yno i fynd i'r afael â masnachu mewn pobl. Mae swyddogion o'r Alban wedi ymweld â'r ganolfan hefyd.

Mynegwyd pryder na fyddai'r ail rownd o gynlluniau peilot yn mynd yn ddigon pell gan eu bod ar gyfer plant sy'n cael eu masnachu yn unig, yn hytrach na bod ar gyfer plant lloches sydd ar eu pen eu hunain hefyd.  

Mynegodd DB bryderon na fyddai'r eiriolwyr plant yn cael eu cymryd o ddifrif gan yr awdurdodau o bosib gan nad oes ganddynt awdurdod statudol. O ran safbwynt CARE, nid oes agen y cynlluniau peilot pellach sydd yn yr arfaeth a dylai Llywodraeth San Steffan weithredu adran 48 o'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

Dywedodd DB y gellid lobïo Karen Bradley AS yn San Steffan a  galw arni i weithredu ar y mater hwn. 

Tynnodd SC sylw at y problemau gyda threialon pellach a'r angen amdanynt, o gofio bod y drefn o ddefnyddio eiriolwyr yn gweithio'n dda yn yr Alban.

Dywedodd EC fod angen darparu hyfforddiant pellach ar gyfer gofalwyr maeth sy'n ymdrin â phlant sy'n cael eu masnachu. 

Dywedodd JW y dylai adran 48 o'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern gael ei ffurfioli a dod i rym. 

Rhoddodd SC ddiweddariad am ddatblygiadau diweddar Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru (rhoddwyd adroddiad i JW)

Dywedodd SC fod y ganolfan yng Nghasnewydd a'r gwaith yng Ngwent i helpu dioddefwyr masnachu yn cael eu cydnabod yn arfer gorau ar draws y DU.  Dyma'r unig ganolfan o'i bath yn y DU.

Cadarnhaodd SC wrth NP y byddai cynlluniau peilot ar gyfer eiriolwyr plant ar gael yng Nghymru yn ystod ail rownd y treialon. 

Dywedodd JW fod ganddi wybodaeth sy'n awgrymu bod cychod yn aros am ddioddefwyr agored i niwed mewn cyrchfannau ymadael a chyrraedd a bod rhai ohonynt yn dioddef o dan law'r masnachwyr.   Dywedodd SC fod y broblem yn cael ei chymryd o ddifrif yn y porthladdoedd a chan y Swyddfa Gartref / awdurdodau ar y ffin erbyn hyn. 

Rhoddodd SC fanylion yr hyfforddiant a roddir i weithwyr proffesiynol ledled Cymru mewn materion yn ymwneud â masnachu, gan gynnwys ymatebwyr cyntaf a'r heddlu. 

Dywedodd SC fod achos yn ymwneud â chaethwasiaeth yn mynd drwy'r llysoedd yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Dywedodd SC fod nifer fawr o bobl wedi cael eu hachub mewn achos o gaethwasiaeth yng ngogledd Cymru'r llynedd.  Cafodd achos sifil llwyddiannus ei ddwyn yn erbyn y troseddwyr.

Gorffennodd SC drwy ddweud bod hyfforddiant yn cael ei roi i'r sector lletygarwch er mwyn adnabod dioddefwyr masnachu mewn pobl.

 

Eitem 6

 

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26  Ionawr 2015. 

 

Eitem 7

 

Nid oedd unrhyw fater arall. 

 

Eitem 8

 

Cyfarfod yn y Cynulliad nesaf i'w gadarnhau.